ADDYG RAN-AMSER I BLANT 3 A 4 OED
Mae gan bob plentyn hawl i leoliad addysg gynnar o ansawdd da, rhan-amser ac am ddim y tymor wedi ei ben-blwydd yn dair oed. Golyga rhan-amser o leiaf 10 awr yr wythnos, am tua'r un nifer o wythnosau â'r flwyddyn ysgol arferol.
| Costau | Nid oes disgwyl i chi gyfrannu at gostau'r lleoliad yma. Os yw eich plentyn eisoes yn mynychu lleoliad addysg gynnar pan ddaw ef/hi yn 3 oed, bydd y ffi'n cael ei gostwng. Er hynny, efallai y bydd rhaid i chi dalu am unrhyw wasanaethau neu ofal plant sy'n ychwanegol at y lleoliad addysg ran-amser am ddim. |
| Cofrestru | Rhaid i bob lleoliad nad yw'n ysgol fod wedi'i gofrestru gydag ASGC. Mae lleoedd ar gael yn nosbarthiadau derbyn a meithrin ysgolion, meithrinfeydd dydd, cylchoedd chwarae, Cylchoedd Meithrin a gwarchodwyr plant sy'n gysylltiedig â Rhwydwaith Plant yn Gyntaf a gymeradwywyd. Am fwy o wybodaeth am gyfleusterau cofrestredig sy'n cynnig lleoedd rhan-amser am ddim, cysylltwch â'ch GGP a/neu Bartneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn lleol. Os ydych chi eisiau i'ch plentyn fynd i leoliad Cymraeg, cysylltwch â'r Mudiad Ysgolion Meithrin. |