CLYBIAU GOFAL PLANT Y TU ALLAN I ORIAU YSGOL
Mae clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol yn help i rieni neu ofalwyr sy'n gweithio neu mewn hyfforddiant. Maen nhw'n darparu clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, clybiau gwyliau a gofal chwarae cyn ac ar ôl oriau ysgol i blant o oedran ysgol.
| Cofrestru | Mae gan lawer o ysgolion glybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol, a lleolir clybiau eraill mewn neuaddau pentref, canolfannau cymunedol a meithrinfeydd dydd. Caiff y plant eu cofrestru a chânt fyrbryd a diod. Lle bo'n briodol, caiff y clybiau eu cofrestru a'u harolygu gan ASGC ac mae staff chwarae cymwysedig neu hyfforddedig yn goruchwylio'r gweithgareddau (un aelod o staff i bob 8 plentyn o dan 8 oed). Dylai'r amgylchedd chwarae fod yn ysgogol ac amrywiol gydag ystod o weithgareddau fel celf/crefft, gemau a chwarae corfforol i blant ddewis ohonynt. Hefyd, mae'n bosib fod yno le tawel i ddarllen a gwneud gwaith cartref. Caiff y plant eu goruchwylio nes daw rhiant neu ofalwr i'w casglu. Weithiau, bydd gwasanaeth casglu ar gael i hebrwng plant i'r ysgol o'r clwb a'u dychwelyd adref ar ddiwedd eu diwrnod. |