CYNLLUNIAU CHWARAE
Gall lleoliadau Chwarae Mynediad Agored fod yn brosiectau parhaol fel meysydd chwarae antur, neu'n gynlluniau chwarae byrdymor lle mae'r plant yn rhydd i fynd a dod. Yn ystod gwyliau ysgol mae nifer o awdurdodau lleol yn trefnu neu'n cefnogi cynlluniau chwarae a all fod â mynediad agored. Mae rhai awdurdodau lleol hefyd yn cynnig clybiau bore Sadwrn a diwrnodau gweithgaredd arbennig. Am fanylion cynlluniau chwarae yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth Plant.