GWARCHODWYR
Fel rheol bydd gwarchodwyr yn gofalu am blant fel y gall y rhieni fynd allan gyda'r nos neu am y prynhawn. Does dim gofyniad oed cyfreithiol, ond mae'r NSPCC yn dweud y dylai gwarchodwyr fod dros 16. Os bydd rhywun sydd o dan 16 oed yn gwarchod i chi a'r plentyn yn cael niwed tra bydd o dan ei g/ofal, mae'n bosib mai chi gaiff eich dal yn gyfrifol. Felly dewiswch yn ofalus a gofynnwch am eirda os nad ydych yn nabod y person yn dda. Mae'r daflen 'Home Alone' yn cynghori rhieni sy'n edrych am warchodwyr. Yr NSPCC sy'n ei chyhoeddi ac mae ar gael gan eich Gwasanaeth Gwybodaeth Plant (GGP) lleol. Os oes cylch gwarchod lleol o fewn cyrraedd i chi, gallwch rannu gofal plant gyda rhieni eraill.