NANIS
Mae nanis yn gofalu am blant yng nghartref y teulu. Does dim trefn reoledig ar eu cyfer ac nid oes raid iddynt gofrestru oni bai eu bod hefyd yn gweithio i deulu arall.
| Dyletswyddau | Cyflogir nani gan y rhiant a gellir trafod ei hunion ddyletswyddau. Mae'n bwysig trafod beth a ddisgwyliwch gan nani cyn ei chyflogi. Bydd nani fel arfer yn gofalu am bob agwedd o les y plentyn. Gall warchod yn rheolaidd ond mae'n annhebygol y bydd hi'n gwneud gwaith ty. Gall fyw i mewn neu ddod i'r cartref yn ddyddiol. |