Cymorth ariannol gyda chostau gofal plant

Gall gofal plant ymddangos yn ddrud, ond cyn i chi benderfynu na allwch ei fforddio, cofiwch fod hawl gan y rhan fwyaf o deuluoedd i gael cymorth ariannol.

Credyd Treth Plant Dredyd Treth Plant sy?n cynorthwyo teulyoedd â phlant. Gallwch wneud cais amdano os ydych yn gweithio neu beido. Mae pob teulu sydd â phlant ac incwm o hyd at £58,000 y flwyddyn (neu hyd at £66,000 y flwyddyn os oes plentyn dan flwydd oed) yn cael hawlio?r credyd yn yr un ffordd. Telir Credyd Treth Plant yn uniongyrchol i'r sawl sy?n bennaf gyfrifol am ofalu am y plentyn neu?r plant. Gellir ei ddefnyddio tuag at eich costau gofal plant, ond nid yw?n daliad penodol ar gyfer gofal plant.
Credyd Treth Gwaith Credyd Treth Gwaith sy?n cynorthwyo pobl sy?n gweitho (i gyflogwr neu?n hunangyflogedig) ar incwm isel drwy ychwanegu at eu henillion. Telir Credyd Treth Gwaith i'r sawl sy?n gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos. Rhaid i gyplau ? os yw?r ddau ohonoch yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos ? ddewis pa un ohonoch gydd yn ei dderbyn. Ni alwch dderbyn Credyd Treth Gwaith os nad ydych yn gweithio.
Elfen Gofal Plant y Credyd Treth Gwaith Gydag Elfen Gofal Plant y Credyd Treth Gwaith mae?n bosib y gallwch gael cymorth ychwanegol gyda chostau gofal plant wedi?i gymeradwyo neu gofrestredig. Ers mis Ebrill 2006, mae cyfran y Cymorth tuag at gostau gydag elfin gofal plant y credyd treth wedi codi i 80%, hyd at derfyn o £175 ar gyfer un pletnyn a £300 ar gyfer dau blentyn neu fwy. Nid yw?r Credyd Treth Plant na?r Credyd Treth Gwaith yn effeithio ar daliadau Budd-dal Plant, sy?n cael eu talu ar wahân.
Llinell gymorth

AM FWY O WYBODAETH CYSLLTWCH Â LLINELL GYMORTH CYLLID Y WLAD A CHREDYD TRETH AR

0845 3003900

www.hmrc.gov.uk/taxcredits

Cynlluniau Cymorth lleoedd a help llaw (?helping hands? Mae rhai o?r cynlluniau hyn yn darparu arian ychwanegol i ddarparwyr gofal plant a/neu deuluoedd ar incwm isel neu fudd-daliadau penodol er mwyn iddynt allu fforddio gofal plant o ansawdd da. Mae rhai o?r cynlluniau hyn yn galluogi darparwyr I gynnig gwasanaeth hollgynhwysol i bob plentyn beth bynnag fo?i anghenion. Am fanylion cynlluniau yn eich ardal chi cysylltwch â?ch GGP lleol.
Addysg gynnar ran-amser yn rhad ac am ddim Hefyd, cofiwch fod hawl gan bob plentyn 3 a 4 oed yng Nghymru i le addysg gynnar ran-amser yn rhad ac am ddim.
Talebau gofal plant I gloi, mae rhai cyflogwyr yn cynorthwyo gweithwyr drwy ddarparu talebau gofal plant.

Right menu

Notice Board

Freephone:

If you would like to chat about any childcare issues contact us on:

0800 180 4320


Family and Kids Fun

WHAT'S ON

Click here for information on events in the borough...


Calling all Young People

New free accredited arts training for 2009
Would you like to get involved in music, dance, theatre, singing and much more?

Dealing with Bullying

Bullying can mean different things to different people. For more information read on .....