Sut i ddewis gwasanaeth gofal plant

Cwestiynau i'w gofyn wrth edrych am wasanaeth gofal plant

Yn gyntaf, ewch i weld cymaint â phosib o ddarparwyr gofal plant cyn penderfynu pa un sydd orau ar eich cyfer chi a'ch plentyn a gwnewch yn siwr eu bod wedi'u cofrestru. Yn ail, i'ch helpu chi i benderfynu, rydym wedi paratoi'r rhestr ganlynol o gwestiynau. Dyma bethau mae pobl eraill wedi ei chael hi'n ddefnyddiol i'w gofyn wrth edrych am wasanaeth gofal plant.

A yw'n groesawgar?

  • A ydych chi'n teimlo bod croeso i chi?
  • Faint o sylw mae eich plentyn yn ei gael?
  • A yw ef/hi'n cael ei g/wneud i deimlo'n arbennig?
  • A yw'r gofalwyr/staff yn barod i helpu?

A yw'n lle sy'n ysgogi plant?

  • A oes arwyddion gweladwy fod plant yn mwynhau ac yn cael eu hysgogi, er enghraifft a oes lluniau ar y waliau, wynebau hapus ac ati?
  • Pa raglen weithgareddau sy'n cael ei chynnig?
  • A yw'n amrywiol ac yn ysgogi?
  • A yw'r gweithgareddau'n ymestynnol ac yn ddiddorol?
  • A yw merched a bechgyn yn cael eu hannog i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd a'u hannog i ddefnyddio'r holl offer?
  • A fydd rhywun yn darllen straeon i 'mhlentyn?
  • A oes yno lyfrau i edrych arnyn nhw?

Pa gyfleusterau sydd yno?

  • A oes yna lawer o deganau ac offer chwarae addas?
  • A oes ardal chwarae y tu allan?
  • Pa ddefnydd sy'n cael ei wneud o deledu neu chwaraeon cyfrifiadurol?
  • Beth am brydau bwyd?
  • Os oes anghenion diet arbennig gan fy mhlentyn, a oes modd darparu ar eu cyfer?

Pa mor ofalgar yw'r gofal?

  • A yw'r lle'n hyblyg ynghylch rhoi cyfnod o gynefino i fy mhlentyn?
  • A gaf i aros gyda 'mhlentyn i'w helpu i gynefino?
  • A gaf i gyfle i ddarganfod sut mae fy mhlentyn yn cynefino ac yn datblygu?
  • A oes yna ffyrdd systematig o wnued hyn?
  • A fydd fy mhlentyn yn cael amser tawel iddo/i ei hun os oes angen?
  • A oes yna gyfnodau gorffwys hyblyg?
  • Beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer triniaeth feddygol frys a chymorth cyntaf?
  • Beth am ddysgu mynd i'r ty bach ar ei ph/ben ei hun a beth os yw fy mhlentyn yn gwluchu ei hun?

Beth am y staff?

  • Pa gymwysterau sydd gan y gofalwyr/staff? (Mae gofynion penodol ynghylch lefelau cymwysterau'r staff mewn lleoliadau sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru ASGC)
  • A yw'r gofalwyr/staff yn cael cynnig hyfforddiant parhaus?
  • A yw'r gofalwy/staff yn cymryd rhan yng ngweithgareddau'r plant?
  • Sut mae'r staff yn siarad â'r plant e.e. a ydyn nhw'n amyneddgar ac yn ystyriol?
  • Sut mae'r staff yn annog ymddygiad da?
  • Wrth ystyried gwarchodwyr plant, gofynnwch am gael gweld eu portffolio a'u geirda.

Cwestiynau eraill:

  • Pa ffurf sydd i'r diwrnod?
  • A fyddant yn mynd allan am dro ac ar dripiau?
  • Beth yw'r trefniadau ar gyfer trefnu lle?
  • A all fy mhlentyn ddod â phethau o gartref i'w helpu i gynefino?
  • Sut gyfleusterau mynediad a pharcio sydd yno?
  • Faint fydd y gofal plant yn ei gostio?
  • Beth sy'n cael ei gynnwys yn y gost e.e. mynd ar drip, bwyd, gofal yn ystod gwyliau ac ati?

I gloi, unwaith y dewch chi o hyd i wasanaeth gofal plant sy'n eich plesio, ceisiwch gael cyfnod o gynefino gyda rhai ymweliadau byr ar gyfer eich plentyn a chi'ch hum. Bydd hyn yn help i chi'ch dau deimlo'n hapusach a mwy hyderus.

Right menu

Notice Board

Freephone:

If you would like to chat about any childcare issues contact us on:

0800 180 4320


Family and Kids Fun

WHAT'S ON

Click here for information on events in the borough...


Calling all Young People

New free accredited arts training for 2009
Would you like to get involved in music, dance, theatre, singing and much more?

Dealing with Bullying

Bullying can mean different things to different people. For more information read on .....