Amdanom Ni

Datganiad Cenhadaeth

"Bydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwybodaeth ac arweiniad sydd o ansawdd da, yn hygyrch ac yn ddiduedd ynghylch yr ystod lawn o wasanaethau, adnoddau a materion ym maes gwasanaethau gofal plant a’r rheiny’n seiliedig ar anghenion plant a’u teuluoedd, gofalwyr, cyflogwyr, gweithwyr proffesiynol a llywodraethau lleol a chenedlaethol a’u hasiantaethau.”

Y mathau o wybodaeth y gallai’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eu darparu:

Gofal plant a materion eraill sy’n ymwneud â phlant megis bwlio, amddiffyn plant, ymddygiad plant

  • Rhianta
  • Gweithgareddau hamdden, gwasanaethau addysg a llyfrgelloedd
  • Gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gwybodaeth am afiechydon a chyflyrau sy’n effeithio ar blant, a’r gwasanaethau cymdeithasol;
  • Anghenion arbennig, gan gynnwys grwpiau cymorth ar gyfer rhieni i blant ag anghenion arbennig/anableddau;
  • Cyrsiau hyfforddi i weithwyr gofal plant;
  • Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith, gan gynnwys deddfwriaeth sy’n effeithio ar gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith;
  • Ffynonellau cyllid i rieni a darparwyr gofal plant;
  • Llinellau cymorth cenedlaethol a lleol i rieni;
  • Mudiadau/sefydliadau plant cenedlaethol a lleol.

Mae dau aelod o staff yn gweithio i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr:

Gaynor Griffiths

gaynor.griffiths@bridgend.gov.uk 01656 815153

Kerry Gilpin

kerry.gilpin@bridgend.gov.uk 01656 815189
eZ publish™ copyright © 1999-2005 eZ systems as