Sut i ddewis gwasanaeth gofal plant
Cwestiynau i'w gofyn wrth edrych am wasanaeth gofal plant
Yn gyntaf, ewch i weld cymaint â phosib o ddarparwyr gofal plant cyn penderfynu pa un sydd orau ar eich cyfer chi a'ch plentyn a gwnewch yn siwr eu bod wedi'u cofrestru. Yn ail, i'ch helpu chi i benderfynu, rydym wedi paratoi'r rhestr ganlynol o gwestiynau. Dyma bethau mae pobl eraill wedi ei chael hi'n ddefnyddiol i'w gofyn wrth edrych am wasanaeth gofal plant.
A yw'n groesawgar?
- A ydych chi'n teimlo bod croeso i chi?
- Faint o sylw mae eich plentyn yn ei gael?
- A yw ef/hi'n cael ei g/wneud i deimlo'n arbennig?
- A yw'r gofalwyr/staff yn barod i helpu?
A yw'n lle sy'n ysgogi plant?
- A oes arwyddion gweladwy fod plant yn mwynhau ac yn cael eu hysgogi, er enghraifft a oes lluniau ar y waliau, wynebau hapus ac ati?
- Pa raglen weithgareddau sy'n cael ei chynnig?
- A yw'n amrywiol ac yn ysgogi?
- A yw'r gweithgareddau'n ymestynnol ac yn ddiddorol?
- A yw merched a bechgyn yn cael eu hannog i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd a'u hannog i ddefnyddio'r holl offer?
- A fydd rhywun yn darllen straeon i 'mhlentyn?
- A oes yno lyfrau i edrych arnyn nhw?
Pa gyfleusterau sydd yno?
- A oes yna lawer o deganau ac offer chwarae addas?
- A oes ardal chwarae y tu allan?
- Pa ddefnydd sy'n cael ei wneud o deledu neu chwaraeon cyfrifiadurol?
- Beth am brydau bwyd?
- Os oes anghenion diet arbennig gan fy mhlentyn, a oes modd darparu ar eu cyfer?
Pa mor ofalgar yw'r gofal?
- A yw'r lle'n hyblyg ynghylch rhoi cyfnod o gynefino i fy mhlentyn?
- A gaf i aros gyda 'mhlentyn i'w helpu i gynefino?
- A gaf i gyfle i ddarganfod sut mae fy mhlentyn yn cynefino ac yn datblygu?
- A oes yna ffyrdd systematig o wnued hyn?
- A fydd fy mhlentyn yn cael amser tawel iddo/i ei hun os oes angen?
- A oes yna gyfnodau gorffwys hyblyg?
- Beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer triniaeth feddygol frys a chymorth cyntaf?
- Beth am ddysgu mynd i'r ty bach ar ei ph/ben ei hun a beth os yw fy mhlentyn yn gwluchu ei hun?
Beth am y staff?
- Pa gymwysterau sydd gan y gofalwyr/staff? (Mae gofynion penodol ynghylch lefelau cymwysterau'r staff mewn lleoliadau sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru ASGC)
- A yw'r gofalwyr/staff yn cael cynnig hyfforddiant parhaus?
- A yw'r gofalwy/staff yn cymryd rhan yng ngweithgareddau'r plant?
- Sut mae'r staff yn siarad â'r plant e.e. a ydyn nhw'n amyneddgar ac yn ystyriol?
- Sut mae'r staff yn annog ymddygiad da?
- Wrth ystyried gwarchodwyr plant, gofynnwch am gael gweld eu portffolio a'u geirda.
Cwestiynau eraill:
- Pa ffurf sydd i'r diwrnod?
- A fyddant yn mynd allan am dro ac ar dripiau?
- Beth yw'r trefniadau ar gyfer trefnu lle?
- A all fy mhlentyn ddod â phethau o gartref i'w helpu i gynefino?
- Sut gyfleusterau mynediad a pharcio sydd yno?
- Faint fydd y gofal plant yn ei gostio?
- Beth sy'n cael ei gynnwys yn y gost e.e. mynd ar drip, bwyd, gofal yn ystod gwyliau ac ati?
I gloi, unwaith y dewch chi o hyd i wasanaeth gofal plant sy'n eich plesio, ceisiwch gael cyfnod o gynefino gyda rhai ymweliadau byr ar gyfer eich plentyn a chi'ch hum. Bydd hyn yn help i chi'ch dau deimlo'n hapusach a mwy hyderus.